A A A A A

Mysteries: [Dinosaurs]


Eseia 27:1
Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD 'i gleddyf creulon, mawr a nerthol yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y mr.

Genesis 1:21
A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn l eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn l ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.

Salmau 104:26
Arno y mae'r llongau yn tramwyo, a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.

Rhufeiniaid 1:18
Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o'r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd.

Genesis 1:24-31
[24] Yna dywedodd Duw, "Dyged y ddaear greaduriaid byw yn l eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn l eu rhywogaeth." A bu felly.[25] Gwnaeth Duw y bwystfilod gwyllt yn l eu rhywogaeth, a'r anifeiliaid yn l eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y tir yn l eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.[26] Dywedodd Duw, "Gwnawn ddyn ar ein delw, yn l ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y mr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear."[27] Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.[28] Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y mr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear."[29] A dywedodd Duw, "Yr wyf yn rhoi i chwi bob llysieuyn sy'n dwyn had ar wyneb y ddaear, a phob coeden had yn ei ffrwyth; byddant yn fwyd i chwi.[30] Ac i bob bwystfil gwyllt, i holl adar yr awyr, ac i bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, popeth ag anadl einioes ynddo, bydd pob llysieuyn glas yn fwyd." A bu felly.[31] Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn. A bu hwyr a bu bore, y chweched dydd.

Job 40:15-24
[15] "Edrych ar Behemoth, a greais yr un adeg thi; y mae'n bwyta glaswellt fel yr ych.[16] Y mae ei nerth yn ei lwynau, a'i gryfder yng nghyhyrau ei fol.[17] Y mae ei gynffon yn syth fel cedrwydden, a gewynnau ei gluniau wedi eu clymu i'w gilydd.[18] Y mae ei esgyrn fel pibellau pres, a'i goesau fel barrau haearn.[19] "Ef yw'r cyntaf o'r pethau a wnaeth Duw; gwnaed ef yn deyrn dros ei gymrodyr.[20] Y mae'r mynyddoedd yn darparu ysglyfaeth iddo; yr holl anifeiliaid sy'n chwarae yno.[21] Fe orwedd dan y lotus, a chuddio yn y brwyn a'r corsydd.[22] Y mae'r lotus yn gysgod drosto, a helyg yn y nant yn ei guddio.[23] Os cyfyd yr afon drosto, ni chynhyrfa; byddai'n ddifraw pe bai'r Iorddonen yn llifo i'w geg.[24] A ellir ei fachu yn ei lygaid, a gwthio tryfer i'w drwyn?

Job 41:1-10
[1] "A fedri di dynnu Lefiathan allan bach, neu ddolennu rhaff am ei dafod?[2] A fedri di roi cortyn am ei drwyn, neu wthio bach i'w n?[3] A wna ef ymbil yn daer arnat, neu siarad yn addfwyn thi?[4] A wna gytundeb thi, i'w gymryd yn was iti am byth?[5] A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn, neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched?[6] A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano, i'w rannu rhwng y gwerthwyr?[7] A osodi di bigau haearn yn ei groen, a bachau pysgota yn ei geg?[8] Os gosodi dy law arno, fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.[9] Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch; onid yw ei olwg yn peri arswyd?[10] Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu; a phwy a all sefyll o'i flaen?

Josua 10:1-10
[1] Clywodd Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai a'i difrodi a gwneud iddi hi a'i brenin yn union fel y gwnaeth i Jericho a'i brenin, a bod trigolion Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, ac yn byw yn eu mysg.[2] Cododd hyn ofn mawr arno, oherwydd yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd brenhinol; yr oedd, yn wir, yn fwy nag Ai, a'i holl ddynion yn rhyfelwyr praff.[3] Anfonodd Adonisedec brenin Jerwsalem at Hoham brenin Hebron, Piram brenin Jarmuth, Jaffia brenin Lachis a Debir brenin Eglon, a dweud,[4] "Dewch i fyny i'm cynorthwyo i ymosod ar Gibeon am iddi wneud heddwch Josua a'r Israeliaid."[5] Felly fe ymgynullodd pum brenin yr Amoriaid, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon, ac aethant hwy a'u holl luoedd i fyny a gwarchae ar Gibeon ac ymosod arni.[6] Ond anfonodd pobl Gibeon at Josua i'r gwersyll yn Gilgal a dweud, "Paid gwrthod cynorthwyo dy weision, ond brysia i fyny atom i'n hachub a'n helpu, oherwydd y mae holl frenhinoedd yr Amoriaid sy'n byw yn y mynydd-dir wedi ymgasglu yn ein herbyn."[7] Aeth Josua i fyny o Gilgal, a chydag ef bob milwr a'r holl ryfelwyr dewr.[8] A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Paid 'u hofni, oherwydd rhoddaf hwy yn dy law; ni fydd neb ohonynt yn sefyll o'th flaen."[9] Daeth Josua arnynt yn ddisymwth, ar l teithio trwy'r nos o Gilgal.[10] Yna gyrrodd yr ARGLWYDD hwy ar chwl o flaen Israel ac achosi lladdfa fawr yn eu mysg yn Gibeon, a'u hymlid ar hyd y ffordd i fyny at Beth-horon, a dal i'w taro hyd at Aseca a Macceda.

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004