A A A A A

Good Character: [Acceptance]


1 Corinthiaid 5:11-13
[11] Ond yn awr yr wyf yn ysgrifennu i ddweud wrthych am beidio chymysgu neb a elwir yn gredadun os yw'n anfoesol yn rhywiol neu'n trachwantu, yn addoli eilunod, yn difenwi, yn meddwi, neu'n cribddeilio; peidiwch hyd yn oed bwyta gydag un felly.[12] Oherwydd beth sydd a wnelwyf fi barnu'r rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?[13] Duw fydd yn barnu'r rhai sydd oddi allan. Taflwch y dihiryn allan o'ch mysg.

1 Ioan 1:9
Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder.

1 Pedr 3:8-9
[8] Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo 'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd.[9] Peidiwch thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw er mwyn i chwi etifeddu bendith.

Ioan 3:16
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.

Diarhebion 13:20
Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb, ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.

Rhufeiniaid 2:11
Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.

Rhufeiniaid 5:8
Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.

Rhufeiniaid 8:31
O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn?

Rhufeiniaid 14:1-2
[1] Derbyniwch i'ch plith unrhyw un sy'n wan ei ffydd, ond nid er mwyn codi dadleuon.[2] Y mae gan ambell un ddigon o ffydd i fwyta pob peth, ond y mae un arall, gan fod ei ffydd mor wan, yn bwyta llysiau yn unig.

Hebreaid 10:24-25
[24] Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da,[25] heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn l arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint 'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.

Ioan 6:35-37
[35] Meddai Iesu wrthynt, "Myfi yw bara'r bywyd. Ni bydd eisiau bwyd byth ar y sawl sy'n dod ataf fi, ac ni bydd syched byth ar y sawl sy'n credu ynof fi.[36] Ond fel y dywedais wrthych, yr ydych chwi wedi fy ngweld, ac eto nid ydych yn credu.[37] Bydd pob un y mae'r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo'r sawl sy'n dod ataf fi.

Colosiaid 3:12-14
[12] Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch am-danoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.[13] Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gu373?yn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.[14] Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.

Mathew 5:38-42
[38] "Clywsoch fel y dywedwyd, 'Llygad am lygad, a dant am ddant.'[39] Ond 'rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd.[40] Ac os bydd rhywun am fynd thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd.[41] Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddwy.[42] Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt.

Mathew 25:34-40
[34] Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, 'Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd.[35] Oherwydd bm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref;[36] bm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bm yn glaf ac ymwelsoch mi, bm yng ngharchar a daethoch ataf.'[37] Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: 'Arglwydd,' gofynnant, 'pryd y'th welsom di'n newynog a'th borthi, neu'n sychedig a rhoi diod iti?[38] A phryd y'th welsom di'n ddieithr a'th gymryd i'n cartref, neu'n noeth a rhoi dillad amdanat?[39] Pryd y'th welsom di'n glaf neu yng ngharchar ac ymweld thi?'[40] A bydd y Brenin yn eu hateb, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.'

Rhufeiniaid 15:1-7
[1] Y mae'n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau'r rhai sy'n eiddil eu cydwybod, a pheidio 'n plesio ein hunain.[2] Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog, gan anelu at yr hyn sydd dda er adeiladu ein gilydd.[3] Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist. I'r gwrthwyneb, fel y mae'n ysgrifenedig: "Y mae gwaradwydd y rhai oedd yn dy waradwyddo di wedi syrthio arnaf fi."[4] Ac fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith.[5] A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gytn eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn l ewyllys Crist Iesu,[6] er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.[7] Am hynny, derbyniwch eich gilydd, fel y derbyniodd Crist chwi, er gogoniant Duw.

Rhufeiniaid 14:10-19
[10] Pam yr wyt ti yn barnu rhywun arall? A thithau, pam yr wyt yn bychanu rhywun arall? Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw.[11] Fel y mae'n ysgrifenedig: "Cyn wired 'm bod i yn fyw, medd yr Arglwydd, i mi y bydd pob glin yn plygu, a phob tafod yn moliannu Duw."[12] Am hynny, bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni'n hunain i Dduw.[13] Felly, peidiwn mwyach barnu ein gilydd. Yn hytrach, dyfarnwch nad oes neb i roi achlysur i rywun arall gwympo neu faglu.[14] Mi wn i sicrwydd yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun. Ond i rywun sy'n ystyried rhywbeth yn aflan y mae'r peth hwnnw yn aflan.[15] Ac felly, os yw'r math o fwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn achos gofid i arall, nid wyt ti mwyach yn ymddwyn yn l gofynion cariad. Paid dwyn i ddistryw, 'th fwyd, unrhyw un y bu Crist farw drosto.[16] Peidiwch gadael i'r peth sy'n dda yn eich golwg gael gair drwg.[17] Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Gln.[18] Y mae'r sawl sy'n gwasanaethu Crist yn y modd hwn yn dderbyniol gan Dduw ac yn gymeradwy gan bawb.[19] Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn 'n gilydd.

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004