Hen Destament
Newydd Destament
Beibl Cymraeg 2004
← 5

Iago 1

2 →
1

Iago, gwas Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, cyfarchion.

2

Fy nghyfeillion, cyfrifwch hi'n llawenydd pur pan syrthiwch i amrywiol brofedigaethau,

3

gan wybod fod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad.

4

A gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim.

5

Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod.

6

Ond gofynned mewn ffydd, heb amau, gan fod y sawl sy'n amau yn debyg i don y mr, sy'n cael ei chwythu a'i chwalu gan y gwynt.

7

Nid yw hwnnw ac yntau rhwng dau feddwl, yn ansicr yn ei holl ffyrdd i dybio y caiff ddim gan yr Arglwydd.

8

{cf2 (1:7)}

9

Dylai'r credadun distadl ymfalcho pan ddyrchefir ef,

10

ond yr un cyfoethog ymfalcho pan ddarostyngir ef, oherwydd diflannu a wna hwnnw fel blodeuyn y maes.

11

Bydd yr haul yn codi yn ei wres tanbaid, a bydd y glaswellt yn crino, ei flodeuyn yn syrthio, a thlysni ei wedd yn darfod. Felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yng nghanol ei holl fynd a dod.

12

Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar l iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef.

13

Ni ddylai neb sy'n cael ei demtio ddweud, "Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn"; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef ei hun yn temtio neb.

14

Yn wir, pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo.

15

Yna, y mae chwant yn beichiogi ac yn esgor ar bechod, ac y mae pechod, ar l cyrraedd ei lawn dwf, yn cenhedlu marwolaeth.

16

Peidiwch chymryd eich camarwain, fy nghyfeillion annwyl.

17

Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod.

18

O'i fwriad ei hun y cenhedlodd ef ni trwy air y gwirionedd, er mwyn inni fod yn fath o flaenffrwyth o'i greaduriaid.

19

Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio,

20

oherwydd nid yw dicter dynol yn hyrwyddo cyfiawnder Duw.

21

Ymaith gan hynny phob aflendid, ac ymaith 'r drygioni sydd ar gynnydd, a derbyniwch yn wylaidd y gair hwnnw a blannwyd ynoch, ac sy'n abl i achub eich eneidiau.

22

Byddwch yn weithredwyr y gair, nid yn wrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.

23

Oherwydd os yw rhywun yn wrandawr y gair, ac nid yn weithredwr, y mae'n debyg i un yn gweld mewn drych yr wyneb a gafodd;

24

fe'i gwelodd ei hun, ac yna, wedi iddo fynd i ffwrdd, anghofiodd ar unwaith pa fath un ydoedd.

25

Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati, a dod yn weithredwr ei gofynion, ac nid yn wrandawr anghofus, bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd.

26

Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau'n methu ffrwyno'i dafod, ac yn wir yn twyllo'i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw.

27

Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004