Hen Destament
Newydd Destament
Welsh Bible 2004
← 8

Marc 9

10 →
1

Meddai hefyd wrthynt, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth."

2

Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd hwy i fynydd uchel o'r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gu373?ydd hwy,

3

ac aeth ei ddillad i ddisgleirio'n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu.

4

Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd Moses; ymddiddan yr oeddent Iesu.

5

A dywedodd Pedr wrth Iesu, "Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias."

6

Oherwydd ni wyddai beth i'w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint.

7

A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a dyma lais o'r cwmwl, "Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno."

8

Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy.

9

Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd rhoddodd orchymyn iddynt beidio dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw.

10

Daliasant ar y gair, gan holi yn eu plith eu hunain beth oedd ystyr atgyfodi oddi wrth y meirw.

11

A gofynasant iddo, "Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?"

12

Meddai yntau wrthynt, "Y mae Elias yn dod yn gyntaf ac yn adfer pob peth. Ond sut y mae'n ysgrifenedig am Fab y Dyn, ei fod i ddioddef llawer a chael ei ddirmygu?

13

Ond rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, a gwnaethant iddo beth bynnag a fynnent, fel y mae'n ysgrifenedig amdano."

14

Pan ddaethant at y disgyblion gwelsant dyrfa fawr o'u cwmpas, ac ysgrifenyddion yn dadlau hwy.

15

Ac unwaith y gwelodd yr holl dyrfa ef fe'u syfrdanwyd, a rhedasant ato a'i gyfarch.

16

Gofynnodd yntau iddynt, "Am beth yr ydych yn dadlau hwy?"

17

Atebodd un o'r dyrfa ef, "Athro, mi ddois i 'm mab atat; y mae wedi ei feddiannu gan ysbryd mud,

18

a pha bryd bynnag y mae hwnnw'n gafael ynddo y mae'n ei fwrw ar lawr, ac y mae yntau'n malu ewyn ac yn ysgyrnygu ei ddannedd ac yn mynd yn ddiymadferth. A dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac ni allasant."

19

Atebodd Iesu hwy: "O genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef ataf fi."

20

A daethant 'r bachgen ato. Cyn gynted ag y gwelodd yr ysbryd ef, ysgytiodd y bachgen yn ffyrnig. Syrthiodd ar y llawr a rholio o gwmpas dan falu ewyn.

21

Gofynnodd Iesu i'w dad, "Faint sydd er pan ddaeth hyn arno?" Dywedodd yntau, "O'i blentyndod;

22

llawer gwaith fe'i taflodd i'r tn neu i'r du373?r, i geisio'i ladd. Os yw'n bosibl iti wneud rhywbeth, tosturia wrthym a helpa ni."

23

Dywedodd Iesu wrtho, "Os yw'n bosibl! Y mae popeth yn bosibl i'r sawl sydd ffydd ganddo."

24

Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, "Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd."

25

A phan welodd Iesu fod tyrfa'n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. "Ysbryd mud a byddar," meddai wrtho, "yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid mynd i mewn iddo eto."

26

A chan weiddi a'i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw.

27

Ond gafaelodd Iesu yn ei law ef a'i godi, a safodd ar ei draed.

28

Ac wedi iddo fynd i'r tu375? gofynnodd ei ddisgyblion iddo o'r neilltu, "Pam na allem ni ei fwrw ef allan?"

29

Ac meddai wrthynt, "Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan."

30

Wedi iddynt adael y lle hwnnw, yr oeddent yn teithio trwy Galilea. Ni fynnai Iesu i neb wybod hynny,

31

oherwydd yr oedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthynt, "Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda."

32

Ond nid oeddent hwy'n deall ei eiriau, ac yr oedd arnynt ofn ei holi.

33

Daethant i Gapernaum, ac wedi cyrraedd y tu375? gofynnodd iddynt, "Beth oeddech chwi'n ei drafod ar y ffordd?"

34

Ond tewi a wnaethant, oherwydd ar y ffordd buont yn dadlau 'i gilydd pwy oedd y mwyaf.

35

Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, "Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb."

36

A chymerodd blentyn, a'i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i'w freichiau, a dywedodd wrthynt,

37

"Pwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, nid myfi y mae'n ei dderbyn, ond yr hwn a'm hanfonodd i."

38

Meddai Ioan wrtho, "Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni."

39

Ond dywedodd Iesu, "Peidiwch 'i wahardd, oherwydd ni all neb sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i roi drygair imi yn fuan wedyn.

40

Y sawl nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae.

41

Oherwydd pwy bynnag a rydd gwpanaid o ddu373?r i chwi i'w yfed o achos eich bod yn perthyn i'r Meseia, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.

42

"A phwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r mr maen melin mawr ynghrog am ei wddf.

43

Os bydd dy law yn achos cwymp iti, tor hi ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus na mynd, a'r ddwy law gennyt, i uffern, i'r tn anniffoddadwy.

44

[{cf15i lle nid yw eu pryf yn marw na'r tn yn diffodd.}]

45

Ac os bydd dy droed yn achos cwymp iti, tor ef ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chael dy daflu, a'r ddau droed gennyt, i uffern.

46

[{cf15i lle nid yw eu pryf yn marw na'r tn yn diffodd.}]

47

Ac os bydd dy lygad yn achos cwymp iti, tyn ef allan; y mae'n well iti fynd i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i uffern,

48

lle nid yw eu pryf yn marw na'r tn yn diffodd.

49

Oblegid fe helltir pob un thn.

50

Da yw'r halen, ond os paid yr halen bod yn hallt, pha beth y rhowch flas arno? Bydded gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon tuag at eich gilydd."

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004