Hen Destament
Newydd Destament
Welsh Bible 2004
← 21

Mathew 22

23 →
1

A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion.

2

"Y mae teyrnas nefoedd," meddai, "yn debyg i frenin, a drefnodd wledd briodas i'w fab.

3

Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod.

4

Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, 'Dywedwch wrth y gwahoddedigion, "Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior."'

5

Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach.

6

A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd.

7

Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref.

8

Yna meddai wrth ei weision, 'Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng.

9

Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.'

10

Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.

11

Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano.

12

Meddai wrtho, 'Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?' A thrawyd y dyn yn fud.

13

Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, 'Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.'

14

Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol."

15

Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air.

16

A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, "Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol 'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb.

17

Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?"

18

Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, "Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?

19

Dangoswch i mi ddarn arian y dreth." Daethant darn arian iddo,

20

ac meddai ef wrthynt, "Llun ac arysgrif pwy sydd yma?"

21

Dywedasant wrtho, "Cesar." Yna meddai ef wrthynt, "Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw."

22

Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.

23

Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad.

24

Gofynasant iddo, "Athro, dywedodd Moses, 'Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.'

25

Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd.

26

A'r un modd yr ail a'r trydydd, hyd at y seithfed.

27

Yn olaf oll bu farw'r wraig.

28

Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig prun o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig."

29

Atebodd Iesu hwy, "Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw.

30

Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef.

31

Ond ynglu375?n ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw,

32

'Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf'? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw."

33

A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.

34

Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd.

35

Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith,

36

"Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?"

37

Dywedodd Iesu wrtho, "'Cr yr Arglwydd dy Dduw 'th holl galon ac 'th holl enaid ac 'th holl feddwl.'

38

Dyma'r gorchymyn cyntaf a phwysicaf.

39

Ac y mae'r ail yn debyg iddo: 'Cr dy gymydog fel ti dy hun.'

40

Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu."

41

Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt,

42

"Beth yw eich barn chwi ynglu375?n 'r Meseia? Mab pwy ydyw?" "Mab Dafydd," meddent wrtho.

43

"Sut felly," gofynnodd Iesu, "y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed:

44

'Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed "'?

45

Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?"

46

Ac nid oedd neb yn gallu ateb gair iddo, ac o'r diwrnod hwnnw ni feiddiodd neb ei holi ddim mwy.

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004