Hen Destament
Newydd Destament
Beibl Cymraeg 2004
← 2

Eseciel 3

4 →
1

Yna dywedodd wrthyf, "Fab dyn, bwyta'r hyn sydd o'th flaen; bwyta'r sgrl hon, a dos a llefara wrth du375? Israel."

2

Agorais fy ngheg, a rhoddodd imi'r sgrl i'w bwyta,

3

a dweud wrthyf, "Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol 'r sgrl hon yr wyf yn ei rhoi iti." Bwyteais, ac yr oedd cyn felysed ml yn fy ngenau.

4

Dywedodd wrthyf, "Fab dyn, dos yn awr at du375? Israel a llefara fy ngeiriau wrthynt.

5

Nid at bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd y'th anfonir, ond at du375? Israel.

6

Na, nid at lawer o bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd, a thithau heb ddeall eu geiriau; yn wir, pe bawn wedi dy anfon atynt hwy, byddent yn gwrando arnat.

7

Ond nid yw tu375? Israel yn fodlon gwrando arnat, am nad ydynt yn fodlon gwrando arnaf fi, oherwydd y mae tu375? Israel i gyd yn wynebgaled ac yn ystyfnig.

8

Yn awr, fe'th wnaf mor wynebgaled ac ystyfnig hwythau.

9

Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid 'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt."

10

Yna dywedodd wrthyf, "Fab dyn, gwrando ar yr holl eiriau yr wyf yn eu llefaru wrthyt, a derbyn hwy i'th galon.

11

Dos yn awr at dy bobl sydd yn y gaethglud, a llefara wrthynt a dweud, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW', prun bynnag a wrandawant ai peidio."

12

Cododd yr ysbryd fi, a chlywais o'r tu l imi su373?n tymestl fawr: "Bendigedig yw gogoniant yr ARGLWYDD yn ei le."

13

Clywais su373?n adenydd y creaduriaid yn cyffwrdd 'i gilydd, a su373?n yr olwynion wrth eu hochr, a sain tymestl fawr.

14

Cododd yr ysbryd fi a'm cario ymaith; ac yr oeddwn yn mynd yn chwerw yng ngwres fy ysbryd, a llaw yr ARGLWYDD yn drwm arnaf.

15

Deuthum i Tel-abib at y caethgludion oedd wedi ymsefydlu wrth afon Chebar, ac aros lle'r oeddent hwy yn byw; arhosais yno yn eu mysg wedi fy syfrdanu am saith diwrnod.

16

Ar ddiwedd y saith diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud:

17

"Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i du375? Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.

18

Os dywedaf wrth y drygionus, 'Byddi'n sicr o farw', a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y drygionus hwnnw farw am ei gamwedd, ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.

19

Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd yn marw am ei gamwedd, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan.

20

Os bydd un cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei gamwedd, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.

21

Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan."

22

Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf yno, a dywedodd wrthyf, "Cod a dos i'r gwastadedd, ac fe lefaraf wrthyt yno."

23

Codais a mynd i'r gwastadedd, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn sefyll yno, yn union fel y gogoniant a welais wrth afon Chebar, a syrthiais ar fy wyneb.

24

Yna daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a llefarodd wrthyf gan ddweud, "Dos a chau arnat dy hun yn dy du375?.

25

Fe roddir rhwymau amdanat ti, fab dyn, a'th glymu hwy fel na elli fynd allan ymysg dy bobl.

26

Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

27

Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.' Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004