Hen Destament
Newydd Destament
Beibl Cymraeg 2004
← 56

Eseia 57

58 →
1

Y mae'r cyfiawn yn darfod amdano heb neb yn malio; cymerir ymaith bobl deyryngar heb neb yn malio. Ond cyn dyfod drygfyd cymerir ymaith y cyfiawn,

2

ac fe i dangnefedd; a gorffwyso yn ei wely y bydd y sawl sy'n rhodio'n gywir.

3

"Dewch yma, chwi blant hudoles, epil y godinebwr a'r butain.

4

Pwy yr ydych yn ei wawdio? Ar bwy yr ydych yn gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Onid plant gwrthryfelgar ydych, ac epil twyll,

5

chwi sy'n llosgi gan nwyd dan bob pren derw, dan bob pren gwyrddlas, ac yn aberthu plant yn y glynnoedd, yn holltau'r clogwyni?

6

Ymhlith cerrig llyfn y dyffryn y mae dy ddewis; yno y mae dy ran. Iddynt hwy y tywelltaist ddiodoffrwm, ac y dygaist fwydoffrwm. A gaf fi fy nhawelu am hyn?

7

Gwnaethost dy wely ar fryn uchel a dyrchafedig, a mynd yno i offrymu aberth.

8

Gosodaist dy arwydd ar gefn y drws a'r pyst, a'm gadael i a'th ddinoethi dy hun; aethost i fyny yno i daenu dy wely ac i daro bargen hwy. 'Rwyt wrth dy fodd yn gorwedd gyda hwy, a gweld eu noethni.

9

Ymwelaist Molech gydag olew, ac amlhau dy beraroglau; anfonaist dy negeswyr i bob cyfeiriad, a'u gyrru hyd yn oed i Sheol.

10

Blinaist gan amlder dy deithio, ond ni ddywedaist, 'Dyna ddigon.' Enillaist dy gynhaliaeth, ac am hynny ni ddiffygiaist.

11

"Pwy a wnaeth iti arswydo ac ofni, a gwneud iti fod yn dwyllodrus, a'm hanghofio, a pheidio meddwl amdanaf? Oni fm ddistaw, a hynny'n hir, a thithau heb fy ofni?

12

Cyhoeddaf dy gyfiawnder a'th weithredoedd. Ni fydd dy eilunod o unrhyw les iti;

13

pan weiddi, ni fyddant yn dy waredu. Bydd y gwynt yn eu dwyn ymaith i gyd, ac awel yn eu chwythu i ffwrdd. Ond bydd y sawl a ymddiried ynof fi yn meddiannu'r ddaear, ac yn etifeddu fy mynydd sanctaidd."

14

Fe ddywedir, "Gosodwch sylfaen, paratowch ffordd; symudwch bob rhwystr oddi ar ffordd fy mhobl."

15

Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig, sydd 'i drigfan yn nhragwyddoldeb, a'i enw'n Sanctaidd: "Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd, 'rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd, i adfywio'r rhai isel eu hysbryd, a bywhau calon y rhai cystuddiol.

16

Ni fyddaf yn ymryson am byth nac yn dal dig yn dragywydd, rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen; oherwydd myfi a greodd eu hanadl.

17

Digiais wrtho am ei wanc pechadurus, a'i daro, a throi mewn dicter oddi wrtho; aeth yntau rhagddo'n gyndyn yn ei ffordd ei hun,

18

ond gwelais y ffordd yr aeth. Iachf ef, a rhoi gorffwys iddo;

19

cysuraf ef, a rhoi geiriau cysur i'w alarwyr. Heddwch i'r pell ac i'r agos," medd yr ARGLWYDD, "a mi a'i hiachf ef."

20

Ond y mae'r drygionus fel mr tonnog na fedr ymdawelu, a'i ddyfroedd yn corddi llaid a baw.

21

"Nid oes heddwch i'r drygionus," medd fy Nuw.

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004