Hen Destament
Newydd Destament
Beibl Cymraeg 2004
← 40

Eseia 41

42 →
1

"Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd, bydded i'r bobl nesu; bydded iddynt nesu a llefaru; down ynghyd i farn.

2

"Pwy sy'n codi un o'r dwyrain, a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam? Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen, ac yn darostwng brenhinoedd. Y mae'n eu gwneud fel llwch 'i gleddyf, fel us yn chwyrlo 'i fwa.

3

Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogel ar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.

4

Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn, a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau, a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd."

5

Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni; daeth cryndod ar eithafion byd; daethant, a nesu.

6

Y mae pawb yn helpu ei gilydd, a'r naill yn dweud wrth y llall, "Ymgryfha."

7

Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych, a'r un sy'n llyfnhau 'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro ar yr eingion; y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn, ac yn sicrhau'r ddelw hoelion rhag iddi symud.

8

"Ti, Israel, yw fy ngwas; ti, Jacob, a ddewisais, had Abraham, f'anwylyd.

9

Dygais di o bellteroedd byd, a'th alw o'i eithafion, a dweud wrthyt, 'Fy ngwas wyt ti; 'rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.'

10

Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di llaw dde orchfygol.

11

Yn awr cywilyddir a gwaradwyddir pob un sy'n digio wrthyt; bydd pob un sy'n ymrafael thi yn mynd yn ddim ac yn diflannu.

12

Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat, ond heb eu cael; bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbyn yn mynd yn ddim, ac yn llai na dim.

13

Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, 'Paid ag ofni, yr wyf fi'n dy gynorthwyo.'

14

"Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob, na thithau'r lleuen Israel; byddaf fi'n dy gynorthwyo," medd yr ARGLWYDD, Sanct Israel, dy Waredydd.

15

"Yn awr, fe'th wnaf yn fen-ddyrnu un newydd, ddanheddog a miniog; byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu, ac yn gwneud y bryniau fel us.

16

Byddi'n eu nithio, a'r gwynt yn eu chwythu i ffwrdd, a'r dymestl yn eu gwasgaru. Ond byddi di'n llawenychu yn yr ARGLWYDD ac yn ymhyfrydu yn Sanct Israel.

17

"Pan fydd y tlawd a'r anghenus yn chwilio am ddu373?r, heb ei gael, a'u tafodau'n gras gan syched, byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn eu hateb; ni fyddaf fi, Duw Israel, yn eu gadael.

18

Agoraf afonydd ar ben y moelydd, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd; gwnaf y diffeithwch yn llynnoedd, a'r crastir yn ffrydiau dyfroedd.

19

Plannaf yn yr anialwch gedrwydd, acasia, myrtwydd ac olewydd; gosodaf ynghyd yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd a phren bocs.

20

Felly cnt weld a gwybod, ystyried ac amgyffred mai llaw'r ARGLWYDD a wnaeth hyn, ac mai Sanct Israel a'i creodd."

21

"Gosodwch eich achos gerbron," medd yr ARGLWYDD. "Cyflwynwch eich dadleuon," medd brenin Jacob.

22

"Bydded iddynt ddod a hysbysu i ni beth sydd i ddigwydd. Beth oedd y pethau cyntaf? Dywedwch, er mwyn inni eu hystyried, a gwybod eu canlyniadau; neu dywedwch wrthym y pethau sydd i ddod.

23

Mynegwch y pethau a ddaw ar l hyn, inni gael gwybod mai duwiau ydych; gwnewch rywbeth, da neu ddrwg, er mwyn i ni gael braw ac ofni trwom.

24

Yn wir, nid ydych chwi'n ddim, ac nid yw'ch gwaith ond diddim. Ffieiddbeth yw'r un sy'n eich dewis.

25

"Codais un o'r gogledd, ac fe ddaeth, un o'r dwyrain, ac fe eilw ar f'enw; y mae'n sathru rhaglawiaid fel pridd, ac fel crochenydd yn sathru clai.

26

Pwy a fynegodd hyn o'r dechreuad, inni gael gwybod, neu ei ddweud ymlaen llaw, inni gael ei ategu? Nid oes neb wedi dweud na mynegi dim, ac ni chlywodd neb eich ymadrodd.

27

Gosodaf un i lefaru'n gyntaf wrth Seion, ac i gyhoeddi newyddion da i Jerwsalem.

28

Pan edrychaf, nid oes neb yno; nid oes cynghorwr yn eu plith a all ateb pan ofynnaf.

29

Yn wir, nid ydynt i gyd ond dim; llai na dim yw eu gwaith, gwynt a gwagedd yw eu delwau."

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004