Hen Destament
Newydd Destament
Welsh Bible 2004
← 40

Exodus 1

2 →
1

Dyma enwau meibion Israel a aeth i'r Aifft gyda Jacob, pob un gyda'i deulu:

2

Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,

3

Issachar, Sabulon a Benjamin,

4

Dan a Nafftali, Gad ac Aser.

5

Yr oedd gan Jacob ddeg a thrigain o ddisgynyddion; yr oedd Joseff eisoes yn yr Aifft.

6

Yna bu farw Joseff a phob un o'i frodyr a'r holl genhedlaeth honno.

7

Ond yr oedd plant Israel yn ffrwythlon ac yn amlhau'n ddirfawr, ac aethant mor gryf a niferus nes bod y wlad yn llawn ohonynt.

8

Yna daeth brenin newydd i deyrnasu ar yr Aifft, un nad oedd yn gwybod am Joseff.

9

Dywedodd ef wrth ei bobl, "Edrychwch, y mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni.

10

Rhaid inni fod yn ddoeth wrth eu trin, rhag iddynt gynyddu, a phe deuai rhyfel, iddynt ymuno 'n gelynion i ymladd yn ein herbyn, a dianc o'r wlad."

11

Felly, gosodwyd meistri gwaith i oruchwylio'r bobl ac i'w llethu beichiau trymion. Hwy fu'n adeiladu Pithom a Rameses, dinasoedd ar gyfer ystordai Pharo.

12

Ond po fwyaf y caent eu gorthrymu, mwyaf yn y byd yr oeddent yn amlhau ac yn cynyddu; a daeth yr Eifftiaid i'w hofni.

13

Am hynny, gorfodwyd i'r Israeliaid weithio dan ormes,

14

a gwnaeth yr Eifftiaid eu bywyd yn chwerw trwy eu gosod i lafurio'n galed chlai a phriddfeini, a gwneud pob math o waith yn y meysydd. Yr oedd y cwbl yn cael ei wneud dan ormes.

15

Yna dywedodd brenin yr Aifft wrth Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid,

16

"Pan fyddwch yn gweini ar wragedd yr Hebreaid, sylwch ar y plentyn a enir: os mab fydd, lladdwch ef; os merch, gadewch iddi fyw."

17

Ond yr oedd y bydwragedd yn parchu Duw; ac ni wnaethant yr hyn a orchmynnodd brenin yr Aifft, ond gadawsant i'r bechgyn fyw.

18

Galwodd brenin yr Aifft y bydwragedd ato a gofyn, "Pam y gwnaethoch hyn, a gadael i'r bechgyn fyw?"

19

Dywedasant hwythau wrth Pharo, "Nid yw gwragedd yr Hebreaid yn debyg i wragedd yr Eifftiaid, oherwydd y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn i'r fydwraig gyrraedd."

20

Am hynny bu Duw yn dda wrth y bydwragedd; a chynyddodd y bobl a dod yn rymus iawn.

21

Am fod y bydwragedd yn parchu Duw, cawsant hwy eu hunain deuluoedd.

22

Yna rhoddodd Pharo orchymyn i'r holl bobl a dweud, "Taflwch i'r Neil bob mab a enir i'r Hebreaid, ond gadewch i bob merch gael byw."

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004