← 8 10 →

Nehemeia 9

1

Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn ymgasglodd yr Israeliaid i ymprydio, gan wisgo sachliain a rhoi pridd ar eu pennau.

2

Ymneilltuodd y rhai oedd o linach Israel oddi wrth bob dieithryn, a sefyll a chyffesu eu pechodau a chamweddau eu hynafiaid.

3

Buont yn sefyll yn eu lle am deirawr yn darllen o lyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, ac am deirawr arall yn cyffesu ac yn ymgrymu i'r ARGLWYDD eu Duw.

4

Safodd Jesua, Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani a Chenani ar lwyfan y Lefiaid, a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw.

5

A dywedodd y Lefiaid, hynny yw Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia a Pethaheia, "Codwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb: Bendithier dy enw gogoneddus sy'n ddyrchafedig goruwch pob bendith a moliant.

6

Ti yn unig wyt ARGLWYDD. Ti a wnaeth y nefoedd, nef y nefoedd a'i holl luoedd, y ddaear a'r cwbl sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt; ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd, ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd.

7

Ti yw yr ARGLWYDD Dduw, ti a ddewisodd Abram a'i dywys o Ur y Caldeaid, a rhoi iddo'r enw Abraham;

8

fe'i cefaist yn ffyddlon i ti, a gwnaethost gyfamod ag ef, i roi i'w ddisgynyddion wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, y Jebusiaid a'r Girgasiaid. Ac fe gedwaist dy air, oherwydd cyfiawn wyt ti.

9

"Fe welaist gystudd ein pobl yn yr Aifft, a gwrandewaist ar eu cri wrth y Mr Coch.

10

Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yn erbyn Pharo a'i holl weision a holl drigolion ei wlad, am dy fod yn gwybod iddynt ymfalcho yn eu herbyn; a gwnaethost enw i ti dy hun sy'n parhau hyd heddiw.

11

Holltaist y mr o'u blaen, ac aethant drwyddo ar dir sych. Teflaist eu herlidwyr i'r dyfnder, fel carreg i ddyfroedd geirwon.

12

Arweiniaist hwy cholofn gwmwl liw dydd, a liw nos cholofn dn, er mwyn goleuo'r ffordd a dramwyent.

13

Daethost i lawr ar Fynydd Sinai, siaredaist hwy o'r nefoedd. Rhoddaist iddynt farnau cyfiawn a chyfreithiau gwir a deddfau a gorchmynion da.

14

Dywedaist wrthynt am dy Saboth sanctaidd, a thrwy Moses dy was rhoddaist iddynt orchmynion a deddfau a chyfraith.

15

Yn eu newyn rhoddaist iddynt fara o'r nefoedd, a thynnu du373?r o'r graig iddynt yn eu syched. Dywedaist wrthynt am fynd i feddiannu'r wlad y tyngaist ti i'w rhoi iddynt.

16

"Ond aethant hwy, ein hynafiaid, yn falch ac yn ystyfnig, a gwrthod gwrando ar dy orchmynion.

17

Gwrthodasant wrando, ac nid oeddent yn cofio dy ryfeddodau a wnaethost iddynt. Aethant yn ystyfnig a dewis arweinydd er mwyn dychwelyd i'w caethiwed yn yr Aifft. Ond yr wyt ti'n Dduw sy'n maddau, yn raslon a thrugarog, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb, ac ni wrthodaist hwy.

18

Hefyd, pan wnaethant lo tawdd a dweud, 'Dyma dy Dduw a'th ddygodd i fyny o'r Aifft', a chablu'n ddirfawr,

19

yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch. Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwl a'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd, na'r golofn dn liw nos, a oleuai'r ffordd a dramwyent.

20

Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo; nid ateliaist dy fanna rhagddynt; rhoddaist iddynt ddu373?r i dorri eu syched.

21

Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwch heb fod arnynt eisiau dim; nid oedd eu dillad yn treulio na'u traed yn chwyddo.

22

"Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd, a rhoi cyfran iddynt ymhob congl. Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbon a gwlad Og brenin Basan.

23

Gwnaethost eu plant mor niferus sr y nefoedd, a'u harwain i'r wlad y dywedaist wrth eu hynafiaid am fynd iddi i'w meddiannu.

24

Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad; darostyngaist tithau drigolion y wlad, y Canaaneaid, o'u blaen, a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad, iddynt wneud fel y mynnent hwy.

25

Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon, a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus, pydewau wedi eu cloddio, gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau; bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus, a mwynhau dy ddaioni mawr.

26

Ond fe aethant yn anufudd a gwrthryfela yn dy erbyn. Troesant eu cefnau ar dy gyfraith, a lladd dy broffwydi oedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat, a chablu'n ddirfawr.

27

Felly rhoddaist hwy yn llaw eu gorthrymwyr, a chawsant eu gorthrymu. Yn eu cyfyngder gwaeddasant arnat, ac fe wrandewaist tithau o'r nefoedd; yn dy drugaredd fawr rhoddaist achubwyr iddynt i'w gwaredu o law eu gorthrymwyr.

28

Ond pan gawsant lonydd, dechreusant eto wneud drwg yn dy olwg. Gadewaist hwy i'w gelynion, a chawsant eu mathru. Unwaith eto galwasant arnat, a gwrandewaist tithau o'r nefoedd, a'u hachub lawer gwaith yn dy drugaredd.

29

Fe'u rhybuddiaist i ddychwelyd at dy gyfraith, ond aethant yn falch a gwrthod ufuddhau i'th orchmynion; pechasant yn erbyn dy farnau sydd yn rhoi bywyd i'r un sy'n eu cadw. Troesant eu cefnau'n ystyfnig, a mynd yn wargaled a gwrthod ufuddhau.

30

Buost yn amyneddgar hwy am flynyddoedd lawer, a'u rhybuddio 'th ysbryd trwy dy broffwydi, ond ni wrandawsant; am hynny rhoddaist hwy yn nwylo pobloedd estron.

31

Ond yn dy drugaredd fawr ni ddifethaist hwy yn llwyr na'u gadael, oherwydd Duw graslon a thrugarog wyt ti.

32

"Yn awr, O ein Duw, y Duw mawr, cryf ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod a thrugaredd, paid diystyru'r holl drybini a ddaeth arnom ar ein brenhinoedd a'n tywysogion, ein hoffeiriaid a'n proffwydi a'n hynafiaid, ac ar dy holl bobl o gyfnod brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.

33

Buost ti yn gyfiawn yn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni; buost ti yn ffyddlon, ond buom ni yn ddrwg.

34

Ni chadwodd ein brenhinoedd na'n tywysogion, ein hoffeiriaid na'n hynafiaid, dy gyfraith; ni wrandawsant ar dy orchmynion, nac ar y rhybuddion a roddaist iddynt.

35

Hyd yn oed yn eu teyrnas eu hunain ynghanol y daioni mawr a ddangosaist tuag atynt, yn y wlad eang a thoreithiog a roddaist iddynt, gwrthodasant dy wasanaethu a throi oddi wrth eu drwgweithredoedd.

36

Dyma ni heddiw yn gaethweision, caethweision yn y wlad a roddaist i'n hynafiaid i fwyta'i ffrwyth a'i braster.

37

Y mae ei holl gynnyrch yn mynd i'r brenhinoedd a osodaist arnom am ein pechodau. Y maent yn rheoli ein cyrff, ac yn gwneud fel y mynnant 'n hanifeiliaid; yr ydym ni mewn helbul mawr."

38

Oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig, ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid a'n hoffeiriaid, yn ei selio.

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004