Hen Destament
Newydd Destament
Beibl Cymraeg 2004
← 17

2 Cronicl 18

19 →
1

Yr oedd gan Jehosaffat olud a chyfoeth mawr iawn, ac yr oedd yn perthyn i Ahab trwy briodas.

2

Ymhen rhai blynyddoedd fe aeth i lawr i Samaria at Ahab, a lladdodd yntau lawer o ddefaid a gwartheg iddo ef a'r bobl oedd gydag ef, a'i ddenu i ymosod ar Ramoth-gilead.

3

Meddai Ahab brenin Israel wrth Jehosaffat brenin Jwda, "A ddoi di gyda mi i Ramoth-gilead?" Atebodd yntau, "Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di; down gyda thi i ryfel."

4

Ond ychwanegodd Jehosaffat wrth frenin Israel, "Cais yn gyntaf air yr ARGLWYDD."

5

Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, pedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, "A ddylem fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?" Dywedasant hwythau, "Dos i fyny, ac fe rydd Duw hi yn llaw'r brenin."

6

Ond holodd Jehosaffat, "Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?"

7

Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oes, y mae un gu373?r eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla. Ond y mae ef yn atgas gennyf am nad yw byth yn proffwydo lles i mi, dim ond drwg." Dywedodd Jehosaffat, "Peidied y brenin dweud fel yna."

8

Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, "Tyrd Michea fab Imla yma ar frys."

9

Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen.

10

Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Gyda'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.'"

11

Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, "Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin."

12

Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, "Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant."

13

Atebodd Michea, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed fy Nuw wrthyf a lefaraf."

14

Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, "Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?" A dywedodd wrtho, "Ewch i fyny a llwyddo; fe'u rhoddir hwy yn eich llaw."

15

Ond dywedodd y brenin wrtho, "Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?"

16

Yna dywedodd Michea: "Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniau fel defaid heb fugail ganddynt. A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Nid oes feistr ar y rhain; felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.'"

17

Dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oni ddywedais wrthyt na fyddai'n proffwydo da i mi, ond yn hytrach ddrwg?"

18

A dywedodd Michea, "Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo.

19

A dywedodd yr ARGLWYDD, 'Pwy a fedr hudo Ahab i frwydro a chwympo yn Ramoth-gilead?' Ac yr oedd un yn dweud fel hyn, a'r llall fel arall;

20

ond dyma un ysbryd yn sefyll allan o flaen yr ARGLWYDD ac yn dweud, 'Fe'i hudaf fi ef'. Ac meddai'r ARGLWYDD, 'Sut?'

21

Dywedodd yntau, 'Af allan a bod yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei broffwydi i gyd.' Yna dywedodd wrtho, 'Fe lwyddi di i'w hudo; dos a gwna hyn.'

22

Yn awr, rhoddodd yr ARGLWYDD ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; y mae'r ARGLWYDD wedi llunio drwg ar dy gyfer."

23

Nesaodd Sedeceia fab Cenaana a rhoi cernod i Michea, a dweud, "Sut yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i lefaru wrthyt ti?"

24

Dywedodd Michea, "Cei weld ar y dydd hwnnw pan fyddi'n ceisio ymguddio yn yr ystafell nesaf i mewn."

25

A dywedodd brenin Israel, "Ewch Michea a'i roi yng ngofal Amon, rheolwr y dref, a Joas mab y brenin,

26

a dywedwch wrthynt, 'Fel hyn y dywed y brenin: Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef 'r dogn prinnaf o fara a du373?r nes imi ddod yn l yn llwyddiannus.'"

27

Ac meddai Michea, "Os llwyddi i ddod yn l, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd."

28

Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.

29

A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol." Newidiodd brenin Israel ei wisg, ac aethant i'r frwydr.

30

Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i gapteiniaid ei gerbydau, "Peidiwch ag ymladd neb, bach na mawr, ond brenin Israel yn unig."

31

A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, "Hwn yn sicr yw brenin Israel." Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd, a chynorthwyodd yr ARGLWYDD Dduw ef trwy eu hudo oddi wrtho.

32

A phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo.

33

A thynnodd rhywun ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, "Tro'n l, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo."

34

Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i frenin Israel aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr; yna ar fachlud haul bu farw.

Welsh Bible 2004
© British and Foreign Bible Society 2004