Beibl mewn un flwyddyn
Rhagfyr 16


Daniel 5:1-30
1. Gwnaeth y Brenin Belsassar wledd fawr i fil o'i dywysogion, ac yfodd win gyda hwy.
2. Wedi cael blas y gwin, gorchmynnodd Belsassar ddwyn y llestri aur ac arian a ladrataodd ei dad Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem, er mwyn i'r brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd yfed ohonynt.
3. Felly dygwyd y llestri aur a ladratawyd o'r deml yn Jerwsalem, ac yfodd y brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd ohonynt.
4. Wrth yfed y gwin, yr oeddent yn moliannu duwiau o aur ac arian, o bres a haearn, o bren a charreg.
5. Yn sydyn, ymddangosodd bysedd llaw ddynol yn ysgrifennu ar blastr y pared gyferbyn 'r canhwyllbren yn llys y brenin, a gwelai'r brenin y llaw ddynol yn ysgrifennu.
6. Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig.
7. Galwodd y brenin am y swynwyr a'r Caldeaid a'r sr-ddewiniaid, ac meddai wrth ddoethion Babilon, "Os medr unrhyw un ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, caiff hwnnw wisg borffor, a chadwyn aur am ei wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas."
8. Yna daeth doethion y brenin ato, ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen na'i dehongli i'r brenin.
9. Felly cynhyrfodd y Brenin Belsassar yn enbyd, a gwelwi, ac yr oedd ei dywysogion yn yr un dryswch.
10. Wrth glywed su373?n y brenin a'i dywysogion, daeth y frenhines i'r ystafell fwyta a dweud, "O frenin, bydd fyw byth! Paid ag edrych mor gynhyrfus a gwelw.
11. Y mae gu373?r yn dy deyrnas sy'n llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd, ac yn amser dy dad dangosodd oleuni a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau; a gwnaed ef gan dy dad, y Brenin Nebuchadnesar, yn ben ar y dewiniaid a'r swynwyr a'r Caldeaid a'r sr-ddewiniaid.
12. Gan fod yn Daniel, a alwodd y brenin yn Beltesassar, ysbryd ardderchog, a deall a dirnadaeth, a'r gallu i ddehongli breuddwydion ac esbonio dirgelion a datrys problemau, anfon yn awr am Daniel; gall ef roi dehongliad."
13. Yna daethpwyd Daniel at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo, "Ai ti yw Daniel, un o'r caethgludion a ddug fy nhad, y brenin, o Jwda?
14. Rwy'n clywed fod ysbryd y duwiau ynot a'th fod yn llawn o oleuni a deall a doethineb ragorol.
15. Er i'r doethion a'r swynwyr ddod yma i ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, nid ydynt yn medru rhoi dehongliad ohoni.
16. Ond rwy'n clywed dy fod ti'n gallu rhoi deongliadau a datrys problemau. Yn awr os medri ddarllen yr ysgrifen a'i dehongli i mi, cei wisg borffor, a chadwyn aur am dy wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas."
17. Yna atebodd Daniel y brenin, "Cei gadw d'anrhegion, a rhoi dy wobrwyon i eraill, ond fe ddarllenaf yr ysgrifen a'i dehongli i'r brenin.
18. Rhoes y Duw Goruchaf frenhiniaeth a mawredd a gogoniant ac urddas i'th dad Nebuchadnesar.
19. Ac oherwydd y mawredd a roed iddo, yr oedd yr holl bobloedd, cenhedloedd ac ieithoedd yn crynu mewn ofn o'i flaen. Gallai ladd neu gadw'n fyw, dyrchafu neu ddarostwng y neb a fynnai.
20. Ond pan ymffrostiodd a mynd yn falch, fe'i diorseddwyd a chymerwyd ei ogoniant oddi arno.
21. Gyrrwyd ef o u373?ydd pobl, rhoddwyd iddo galon anifail, ac yr oedd ei gartref gyda'r asynnod gwylltion. Yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ac yr oedd ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, nes iddo wybod mai'r Duw Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.
22. Ond amdanat ti, ei fab Belsassar, er iti wybod hyn oll, ni ddarostyngaist dy hun.
23. Yr wyt wedi herio Arglwydd y Nefoedd trwy ddod llestri ei du375? ef o'th flaen, a thithau a'th dywysogion a'th wragedd a'th ordderchwragedd yn yfed gwin ohonynt. Yr wyt wedi moliannu duwiau o arian ac aur, o bres a haearn, o bren a charreg, nad ydynt yn clywed dim, nac yn gweld nac yn gwybod; ac nid wyt wedi mawrhau'r Duw y mae d'einioes a'th ffyrdd yn ei law.
24. Dyna pam yr anfonwyd y llaw i ysgrifennu'r geiriau hyn.
25. Fel hyn y mae'r ysgrifen yn darllen: 'Mene, Mene, Tecel, Wparsin.'
26. A dyma'r dehongliad. 'Mene': rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben.
27. 'Tecel': pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin.
28. 'Peres': rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid."
29. Yna, ar orchymyn Belsassar, cafodd Daniel wisg borffor, a chadwyn o aur am ei wddf, a'i benodi yn drydydd llywodraethwr yn y deyrnas.
30. A'r noson honno lladdwyd Belsassar, brenin y Caldeaid.

Daniel 6:1-28
1. Penderfynodd Dareius benodi cant ac ugain o lywodraethwyr, un i fod dros bob rhan o'r deyrnas,
2. a throstynt hwy dri rhaglaw, gan gynnwys Daniel; ac iddynt hwy yr oedd y llywodraethwyr yn gyfrifol, i warchod buddiannau'r brenin.
3. Yr oedd Daniel yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am fod ganddo ddawn arbennig, a bwriadai'r brenin ei osod dros yr holl deyrnas.
4. Yna chwiliodd y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am ryw achos ynglu375?n 'r deyrnas y gallent ei ddwyn yn erbyn Daniel, ond ni fedrent gael achos na bai ynddo; am ei fod mor ddidwyll, ni chawsant unrhyw amryfusedd na bai ynddo.
5. Yna dywedodd y dynion hyn, "Ni fedrwn gael unrhyw achos yn erbyn y Daniel hwn os na chawn rywbeth ynglu375?n chyfraith ei Dduw."
6. Felly aeth y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, "O Frenin Dareius, bydd fyw byth!
7. Y mae holl swyddogion y deyrnas, yn benaethiaid a llywodraethwyr, yn gynghorwyr a rhaglawiaid, yn unfryd 'i gilydd y dylai'r brenin wneud deddf a gorchymyn pendant fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn ymbil ar unrhyw dduw neu ddyn, ar wahn i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod.
8. Yn awr, O frenin, cadarnha'r gorchymyn ac arwydda'r ddogfen, fel na chaiff ei newid, yn l cyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."
9. Felly arwyddodd y Brenin Dareius y ddogfen a'r gorchymyn.
10. Pan glywodd Daniel fod y ddogfen wedi ei harwyddo, aeth i'w du375?. Yr oedd ffenestri ei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem, ac yntau'n parhau i benlinio deirgwaith y dydd, a gweddo a thalu diolch i'w Dduw, yn l ei arfer.
11. Daeth y bobl hyn gyda'i gilydd a dal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar ei Dduw.
12. Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: "Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gweddo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahn i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?" Atebodd y brenin, "Dyna'r gorchymyn, yn unol chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid."
13. Dywedasant hwythau wrth y brenin, "Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gweddo deirgwaith y dydd."
14. Pan glywodd y brenin hyn yr oedd yn drist iawn, a cheisiodd ffordd i achub Daniel, ac ymdrechu hyd fachlud haul i'w arbed.
15. Ond daeth y rhain gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, "Gwyddost, O frenin, fod pob gorchymyn a deddf o eiddo'r brenin yn ddigyfnewid yn l cyfraith y Mediaid a'r Persiaid."
16. Felly gorchmynnodd y brenin iddynt ddod Daniel, a'i daflu i ffau'r llewod; ond dywedodd wrth Daniel, "Bydded i'th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub."
17. Yna daethant maen, a'i osod ar geg y ffau, a seliodd y brenin ef 'i sl ei hun a sl ei bendefigion, rhag bod unrhyw newid ar y dyfarniad yn erbyn Daniel.
18. Dychwelodd y brenin i'w balas a threulio'r noson mewn ympryd; ni ddaethpwyd merched ato, ac ni allai gysgu.
19. Yn y bore, ar doriad gwawr, cododd y brenin a mynd ar frys at ffau'r llewod.
20. Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, "Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?"
21. Atebodd Daniel y brenin, "O frenin, bydd fyw byth!
22. Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod fel na wnaethant niwed i mi, am fy mod yn ddieuog yn ei olwg; ni wneuthum niwed i tithau chwaith, O frenin."
23. Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.
24. Ac ar orchymyn y brenin, daethant 'r rhai oedd wedi cyhuddo Daniel, a'u taflu i ffau'r llewod, hwy a'u plant a'u gwragedd, a chyn iddynt gyrraedd gwaelod y ffau yr oedd y llewod wedi eu llarpio ac wedi malu eu hesgyrn yn chwilfriw.
25. Yna ysgrifennodd y Brenin Dareius at yr holl bobloedd, o bob cenedl ac iaith trwy'r byd i gyd, "Heddwch fo i chwi!
26. Yr wyf yn gorchymyn fod pawb ym mhob talaith o'm teyrnas i ofni a pharchu Duw Daniel. Ef yw'r Duw byw, y tragwyddol; ni ddinistrir ei frenhiniaeth, a phery ei arglwyddiaeth byth.
27. Y mae'n achub ac yn gwaredu, yn gwneud arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; ef a achubodd Daniel o afael y llewod."
28. A llwyddodd y Daniel hwn yn ystod teyrnasiad Dareius a theyrnasiad Cyrus y Persiad.

Salmau 136:10-26
10. Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
11. a daeth ag Israel allan o'u canol, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
12. llaw gref ac braich estynedig, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
13. Holltodd y Mr Coch yn ddau, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
14. a dygodd Israel trwy ei ganol, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
15. ond taflodd Pharo a'i lu i'r Mr Coch, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
16. Arweiniodd ei bobl trwy'r anialwch, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
17. a tharo brenhinoedd mawrion, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
18. Lladdodd frenhinoedd cryfion, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
19. Sihon brenin yr Amoriaid, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
20. Og brenin Basan, oherwydd mae ei gariad hyd byth;
21. rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
22. yn etifeddiaeth i'w was Israel, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
23. Pan oeddem wedi'n darostwng, fe'n cofiodd, oherwydd mae ei gariad hyd byth,
24. a'n gwaredu oddi wrth ein gelynion, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
25. Ef sy'n rhoi bwyd i bob creadur, oherwydd mae ei gariad hyd byth.
26. Diolchwch i Dduw y nefoedd, oherwydd mae ei gariad hyd byth.

Diarhebion 29:12-13
12. Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd, bydd ei holl weision yn ddrygionus.
13. Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr: yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.

2 Pedr 2:1-22
1. Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau, rhai a fydd yn dwyn i mewn yn llechwraidd heresau dinistriol, yn gwadu'r Meistr a'u prynodd, ac yn dwyn arnynt eu hunain ddistryw buan.
2. A bydd llawer yn dilyn eu harferion anllad, a thrwyddynt hwy caiff ffordd y gwirionedd enw drwg.
3. Yn eu trachwant gwnnt elw ohonoch 'u storau ffug; y mae eu barnedigaeth ar gerdded erstalwm, a'u dinistr yn rhythu arnynt.
4. Oherwydd nid arbedodd Duw yr angylion a bechodd; traddododd hwy i garchar tywyll uffern, i'w cadw hyd y Farn.
5. Nid arbedodd yr hen fyd chwaith, er iddo ddiogelu Noa, pregethwr cyfiawnder, ynghyd saith arall, wrth ddwyn y dilyw ar fyd y rhai annuwiol.
6. Condemniodd hefyd ddinasoedd Sodom a Gomorra i ddistryw; llosgodd hwy'n lludw, a'u gosod yn esiampl o'r hyn sydd i ddigwydd i'r annuwiol.
7. Gwaredodd Lot, gu373?r cyfiawn oedd yn cael ei drallodi gan fywyd anllad rhai afreolus;
8. oherwydd wrth i'r gu373?r cyfiawn hwn fyw yn eu plith, yr oedd gweld a chlywed eu gweithredoedd aflywodraethus yn artaith feunyddiol i'w enaid cyfiawn.
9. Y mae'r Arglwydd yn medru gwaredu'r duwiol o'u treialon, a chadw'r anghyfiawn hyd Ddydd y Farn i'w cosbi,
10. ac yn arbennig felly y rhai sy'n byw i borthi chwantau aflan y cnawd, ac yn diystyru awdurdod. Y maent yn rhyfygus a thrahaus, ac yn sarhau'r bodau nefol yn gwbl eofn,
11. rhywbeth nad yw'r angylion, er eu rhagoriaeth mewn nerth a gallu, yn ei wneud wrth gyhoeddi barn yn eu herbyn hwy gerbron yr Arglwydd.
12. Ond y mae'r bobl hyn yn siarad yn sarhaus am bethau nad ydynt yn eu deall; y maent fel anifeiliaid direswm sydd, yn nhrefn natur, wedi eu geni i'w dal a'u difetha; ac fel y difethir anifeiliaid, fe'u difethir hwythau.
13. Fe gnt ddrwg yn dl am eu drygioni. Eu syniad am bleser yw gloddesta liw dydd. Yn eich cwmni, mae eu chwant a'u gloddesta yn warth a gwaradwydd.
14. Y mae ganddynt lygaid sy'n llawn godineb, na chnt byth mo'u digon o bechod. Y maent yn denu'r ansicr i'w dinistr. Y mae ganddynt galonnau wedi eu hymarfer i drachwant rhai dan felltith ydynt.
15. Gadawsant y ffordd union a mynd ar gyfeiliorn, gan ddilyn ffordd Balaam fab Bosor, hwnnw a roes ei fryd ar wobr drygioni,
16. ond na chafodd ddim ond cerydd am ei drosedd, pan lefarodd asyn mud llais dynol ac atal gwallgofrwydd y proffwyd.
17. Ffynhonnau heb ddu373?r ydynt, a niwloedd yn cael eu gyrru gan dymestl; y mae'r tywyllwch dudew ar gadw iddynt.
18. Oherwydd y maent yn llefaru geiriau ymffrostgar a gwag, ac yn defnyddio chwantau anllad y cnawd i ddenu i'w dinistr y rhai nad ydynt ond braidd wedi dianc o blith rhai yn byw'n gyfeiliornus.
19. Y maent yn addo rhyddid iddynt, a hwythau'n gaeth i lygredigaeth; oherwydd y mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu.
20. Oherwydd os yw rhai sydd wedi dianc rhag aflendid y byd trwy ddod i adnabod ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist, wedi eu dal a'u trechu eilwaith gan yr aflendid hwnnw, yna y mae eu diwedd yn waeth na'u dechrau.
21. Byddai'n well iddynt hwy fod heb ddod i adnabod ffordd cyfiawnder, yn hytrach na'i hadnabod ac yna droi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.
22. Gwireddwyd, yn eu hachos hwy, y ddihareb: "Y mae ci yn troi'n l at ei gyfog ei hun", a hefyd: "Y mae'r hwch a ymolchodd yn ymdrybaeddu yn y llaid."